Additional Information
Book Details
Abstract
Dyma’r gyfrol Gymraeg gyntaf i drafod y portread o amlddiwylliannedd yng Nghymru mewn ffuglen Gymraeg a Saesneg gyfoes. Mae’n astudiaeth gymharol sy’n dod â gwaith rhai o awduron Cymraeg a Saesneg mwyaf blaenllaw Cymru yn y degawdau diwethaf ynghyd – gan gynnwys Angharad Price, Llwyd Owen, Tony Bianchi, Charlotte Williams a Dannie Abse. Mae’n ein cyflwyno hefyd i waith awduron nad ydynt wedi derbyn llawer o sylw beirniadol hyd yn hyn, awduron megis Nikita Lalwani a Joe Dunthorne. Er mwyn ystyried y portread o amlddiwylliannedd, rhoddir ar waith ddamcaniaethau am ‘aralledd’ – term sy’n dynodi gwahaniaeth a ystyrir yn israddol i’r brif ffrwd gymdeithasol neu ddiwylliannol. Trwy archwilio ffurf y nofel Gymreig gyfoes, ynghyd â themâu megis ystrydebau, amlieithrwydd, a mudo a mewnfudo, awgryma’r gyfrol hon sut y gall darllen ffuglen ar draws ffiniau ieithyddol Cymru gyfrannu at ddatblygu cymdeithas Gymreig fwy cynhwysol – cymdeithas lle y mae’r Gymraeg yn ganolog i fywyd y genedl, ond lle yr ymwrthodir â seilio hunaniaeth Gymreig ar allu’r unigolyn yn yr iaith honno; a chymdeithas lle y mae’r dwyieithrwydd sylfaenol hwn yn herio cysyniadau am oruchafiaeth, ac angenrheidrwydd, un brif ffrwd ddiwylliannol.
Table of Contents
| Section Title | Page | Action | Price | 
|---|---|---|---|
| Cover | i | ||
| Tudalen Deitl | iv | ||
| Tudalen Hawlfraint | v | ||
| Geirnod | vi | ||
| Cynnwys | viii | ||
| Diolchiadau | x | ||
| Rhestr Termau | xii | ||
| Cyflwyniad | 1 | ||
| 1: Y Gymru 'Ddu': Diffinio Aralledd yn y Gymru Amlddiwylliannol | 11 | ||
| 2: 'Yr un alaw, gwahanol eiriau': Herio Awdurdod yn y Nofel Aml-leisiol | 35 | ||
| 3: 'Welsh... Was ist das?': Herio Ystrydebau a Chreu Gofodau Synergaidd | 67 | ||
| 4: 'Call me Caliban': Iaith ac Aralledd | 97 | ||
| 5: 'Gwlad a oedd wedi peidio â bod': Croesi a Chwalu Ffiniau | 125 | ||
| Casgliadau a Dechreuadau: Y Ddalen 'Wen' | 159 | ||
| Nodiadau | 171 | ||
| Llyfryddiaeth | 195 | ||
| Mynegai | 207 | ||
| Back Cover | 215 |