Menu Expand
Cristnogaeth a Gwyddoniaeth

Cristnogaeth a Gwyddoniaeth

Noel A. Davies | T. Hefin Jones

(2017)

Additional Information

Book Details

Abstract

Dyma’r unig ymdriniaeth ddiweddar yn y Gymraeg o rai o’r cwestiynau cymhleth a heriol a godir i ddiwinyddiaeth Gristnogol gan wyddoniaeth gyfoes: sut y gall diwinyddiaeth Gristnogol ymateb i’r ddealltwriaeth lawnach a dyfnach sydd gennym bellach am darddiad, datblygiad a phrosesau’r bydysawd? A all Cristnogion barhau i gyffesu yng ngeiriau’r Credo, ‘Credwn yn Nuw, y Tad Hollalluog, Creawdwr nefoedd a daear’? Ac a fedrant goleddu’r Ffydd Apostolaidd a ddatguddiwyd drwy’r Ysgrythurau ac a gyffesir gan draddodiad Cristnogol y canrifoedd? Os gellir cyffesu’r ffydd hon o hyd, sut y mae ei dehongli heddiw, yn wyneb gwybodaeth gyfoes am darddiad y bydysawd, am siawns a chynllun, am Darwin a geneteg, am fiodechnoleg ac ecoleg? Mae deiliaid ‘yr atheistiaeth newydd’ yn honni nad yw cred mewn Duw yn bosibl – cred sicr awduron y gyfrol hon, fodd bynnag, yw nad oes gwrthdaro rhwng Cristnogaeth a gwyddoniaeth, a bod dealltwriaeth o’r naill yn cyfoethogi’n dirnadaeth o gyfoeth y llall. Dwy ffenestr wahanol sydd yma i’n galluogi i edrych ar ryfeddod Duw, ar y bydysawd sy’n tarddu yn ei fwriad a’i egni creadigol, ac ar wyrth pob bywyd sy’n ddibynnol ar y bydysawd hwnnw.


Table of Contents

Section Title Page Action Price
Cover 1
Tudalen Deitl 4
Tudalen Hawlfraint 5
Cynnwys 6
Rhagarweiniad 8
Yr Awduron 14
1: Edrych yn ôl: Rhai Trobwyntiau Hanesyddol 16
2: Gwyddoniaeth a Diwinyddiaeth: Rhai Seiliau Athronyddol 26
3: Y Glec Fawr, y Cread a Duw 44
4: Siawns, Cynllun ac Anghenraid 62
5: Darwin, DNA a Duw 72
6: Biotechnoleg a Datblygiadau Meddygol 82
7: Y Natur Ddynol 96
8: Glendid Maith y Cread: Cristnogion a’r Amgylchedd 106
9: Credwn yn Nuw 116
Llyfryddiaeth Ddethol 128
Cyfeiriadaeth 132
Mynegai 146