Additional Information
Book Details
Abstract
Dyma’r astudiaeth gyntaf o waith cyfieithu un o gewri’r ddrama, sef Saunders Lewis. Mae ei gyfieithiadau o weithiau’r dramodwyr Ffrangeg Samuel Beckett a Molière yn datgelu agwedd newydd a dadlengar ar y llenor a adwaenir fel dramodydd, nofelydd a gwleidydd yn hytrach na fel cyfieithydd. Ystyrir yma hanes cyfieithu ac addasu yn y theatr Gymraeg a’r modd y maent wedi gwneud cyfraniad pwysig i ddatblygiad y ddrama Gymraeg; edrychir hefyd ar bwysigrwydd Ewrop, a Ffrainc yn benodol, i Saunders ac arwyddocâd hyn fel sail i’w waith cyfieithu. Trafodir y modd y mae ei ddulliau cyfieithu yn adlewyrchu ei ddatblygiadau personol a phroffesiynol dros gyfnod o ddeugain mlynedd, a beth yw rôl y cyfieithydd ym myd y theatr – pa hawl sydd gan gyfieithydd i addasu darn llenyddol, er enghraifft, a ble mae gosod ffin rhwng cyfieithu, addasu a chreu testun newydd, ac i ba graddau felly y mae i’r cyfieithiad newydd werth celfyddydol gwreiddiol ynddi ei hun.
Table of Contents
| Section Title | Page | Action | Price |
|---|---|---|---|
| Cover | 1 | ||
| Tudalen Deitl | 4 | ||
| Tudalen Hawlfraint | 5 | ||
| Cynnwys | 6 | ||
| Rhagarweiniad a Diolchiadau | 8 | ||
| 1. Cyflwyniad | 12 | ||
| 2. Datblygiad Cyfieithu Dramâu yng Nghymru | 21 | ||
| 3. Saunders Lewis ac Ewrop | 49 | ||
| 4. Cyfieithu Llyfr a Chyfieithu i’r Llwyfan | 72 | ||
| 5. Cyfieithu’r Clasurol | 123 | ||
| 6. Cyfieithu’r Absẃrd | 183 | ||
| 7. Casgliad | 239 | ||
| Mynegai | 244 |