Additional Information
Book Details
Abstract
Dyma gyfrol sy’n rhoi darlun o fywyd a gwaith y ffisegydd o Gymro, yr Athro Evan James Williams, gŵr a gafodd ei ddisgrifio fel un o’r gwyddonwyr mwyaf galluog a welodd Cymru erioed ac fe’i cydnabyddid fel arbrofwr dyfeisgar a damcaniaethwr disglair. Cymerodd ran flaenllaw yn y chwyldro a ddigwyddodd yn negawdau cyntaf yr ugeinfed ganrif gyda datblygiad ffiseg cwantwm. Cydweithiodd gyda’r arloeswyr (nifer ohonynt yn enillwyr gwobr Nobel) a gwnaeth gyfraniad nodedig ym maes gwrthdrawiadau atomig ac yn narganfyddiad gronyn elfennol newydd. Ym 1939, ymunodd yn y dasg o ddiddymu bygythiad dinistriol llongau tanfor a chyflawnodd waith gorchestol. Amlygir ei alluoedd di-gymar yn y gyfrol hon, a chyflwynir yn ogystal ddarlun o gymeriad hoffus a thwymgalon na gollodd ei ymlyniad na’i gariad tuag at fro ei febyd a’i diwylliant.
Table of Contents
| Section Title | Page | Action | Price |
|---|---|---|---|
| Clawr | Clawr | ||
| Tudalen Deitl | iii | ||
| Tudalen Hawlfraint | iv | ||
| Geirnod | v | ||
| Cynnwys | vii | ||
| Rhagair Golygydd y Gyfres | ix | ||
| Series Editor’s Foreword | x | ||
| Luniau | xi | ||
| Rhagair | 1 | ||
| Pennod 1: Mae gen i Freuddwyd | 7 | ||
| Pennod 2: Siglo’r Seiliau | 25 | ||
| Pennod 3: Doethuriaethau | 55 | ||
| Pennod 4: Pererindota | 79 | ||
| Pennod 5: Cyrraedd y Brig | 101 | ||
| Pennod 6: Helgwn y Weilgi | 125 | ||
| Pennod 7: Gwawr a Gweryd | 151 | ||
| Pennod 8: Epilog | 159 | ||
| Nodiadau | 169 | ||
| Llyfryddiaeth | 171 | ||
| Mynegai | 175 | ||
| Clawr Cefn | Clawr Cefn |