Menu Expand
Perfformio'r Genedl

Perfformio'r Genedl

Anwen Jones

(2017)

Additional Information

Book Details

Abstract

Mae Perfformio’r Genedl yn gyfrol sy’n cloriannu a chydnabod cyfraniad Hywel Teifi Edwards i’r broses bwysig o ddiffinio anian ac athrylith perfformiadol cenedl y Cymry. Dyma ymgais arloesol i ddathlu cyfraniad Edwards i faes nas cloriannir yn benodol mewn un cyfraniad canolog ganddo, ond sydd yn brigo i’r wyneb drwyddi draw mewn ystod eang o’i weithiau unigol. Archwilir nifer o agweddau gwahanol ar waith y gellid ei uno o dan bennawd cyffredinol – sef astudiaeth o’r perfformiadol yng nghyd-destun twf cysyniad o hunaniaeth genedlaethol Cymru, o’r ddeunawfed ganrif hyd at y presennol. Mae’r gyfrol yn canoli ar themâu amrywiol yng ngwaith Edwards, megis Pasiant Cenedlaethol Cymru, yr Eisteddfod Genedlaethol, traddodiadau’r Orsedd, y drafodaeth o ddramâu cynnar y mudiad drama, a’r dogfennu ar weithgaredd cwmnïau drama amatur. Dadleuir bod modd cysylltu’r amryw themâu yn ei waith a’u trafod yng nghyd-destun astudiaeth o’r anian perfformiadol yng nghyfansoddiad y Cymry.


Table of Contents

Section Title Page Action Price
Cover 1
Title Page 4
Copyright 5
Cynnwys 6
Rhagymadrodd Golygydd y Gyfrol: Anwen Jones 8
Ymlaen mae Canaan: Dyfodoldeb yn Hanesyddiaeth y Theatr Gymraeg: Gareth Llŷr Evans 24
Codi’r Llen, Ffotograffiaeth a Hanesyddiaeth 'Annheyrngar' Hywel Teifi Edwards: Roger Owen 54
Cadwraeth a Chynnydd yn y Mudiad Drama Cymraeg: Ioan Williams 72
Chwarae Rhan yng Nghynhyrchiad Cymru Fydd: M. Wynn Thomas 114
Perfformio Cenedl y Dychymyg: Iolo Morganwg a Dechreuadau Gorsedd y Beirdd: Cathryn A. Charnell-White 140
Yr Eisteddfod yng Ngweithiau Hywel Teifi Edwards: Parth Ymreolaethol dros dro?: Rowan O’Neill 170
Celfyddydau Perfformiadol Cymru: Hanes Newydd, Hanesyddiaeth Newydd – Hywel Teifi Edwards a Phasiant Cenedlaethol Cymru, 1909: Anwen Jones 188
Mynegai 220