Additional Information
Book Details
Abstract
Trwy driniaeth wreiddiol a gafaelgar o rai o ffigyrau adnabyddus Cymru, mae Huw L. Williams yn amlygu nifer o’n credoau fel cenedl, sydd wedi profi’n ddylanwadol yng Nghymru a thu hwnt. Cyflwynir trafodaethau gwleidyddol, moesol a diwinyddol trwy ffurf ymddiddanion dychmygol, gyda sylwebaeth athronyddol ar elfennau canolog yr athrawiaethau hynny. Ymysg y sawl sy’n amlwg yn y gyfrol y mae Glyn Dŵr, Robert Owen, Lady Llanover a Henry Richard, gyda’u syniadau pwysicaf wedi’u cyflwyno ar ffurf ymgom difyr sy’n cynnig cyflwyniad hygyrch i’r darllenydd. Yn dilyn pob ymgom, daw dadansoddiad o’r syniadau hynny i roi cyfrif trwyadl o ambell gysyniad a gosod cwestiynau gerbron ynglŷn â grym a dilysrwydd y gwahanol gredoau. Pwysleisir yn arbennig y cysylltiadau anwahanadwy gyda thueddiadau deallusol ehangach Ewrop a’r modd y mae syniadaeth yng Nghymru wedi dylanwadu, ac wedi’i ddylanwadu gan, y cyd-destun ehangach. Ymhlyg yn y driniaeth yma o syniadaeth Gymreig ceir ymgais i amlygu sut y mae ystyriaethau athronyddol ynghlwm yn ein bywyd cyfunol, yn ogystal ag awgrym bod yna hanes syniadau neilltuol yn perthyn i Gymru. Dyma roi sylw priodol felly i sylwedd athronyddol y traddodiad deallusol hwnnw, a chynnig dathliad o’n credoau fel cenedl.
Table of Contents
| Section Title | Page | Action | Price |
|---|---|---|---|
| Clawr | Clawr | ||
| Tudalen Deitl | iii | ||
| Tudalen Hawlfraint | iv | ||
| Geirnod | v | ||
| Cynnwys | vii | ||
| Diolchiadau | ix | ||
| Nodyn ar ddarllen y testun hwn | xi | ||
| Rhestr lluniau | xiii | ||
| 1. Gosod yr Olygfa | 1 | ||
| 2. Y Natur Ddynol: Pelagius (354–?) | 13 | ||
| 3. Cyfraith a Gwladwriaeth: Hywel Dda (880–950) ac Owain Glyndwr (1349–?) | 31 | ||
| 4. Y Da, y Duwiol a’r Gwleidyddol: Richard Price (1723–1791) | 59 | ||
| 5. Addysg, Cymuned a Chyfalafiaeth: Robert Owen (1771–1858) | 85 | ||
| 6. Heddychiaeth a Gwleidyddiaeth Ryngwladol: Henry Richard (1812–1888) a David Davies (1880–1944) | 105 | ||
| 7. Sosialaeth: Aneurin Bevan (1896–1960) a Raymond Williams (1921–1988) | 133 | ||
| 8. Cenedlaetholdeb: Arglwyddes Llanofer, Michael D. Jones a J. R. Jones | 163 | ||
| 9. Diweddglo | 193 | ||
| Nodiadau | 207 | ||
| Llyfryddiaeth | 211 | ||
| Bywgraffiadau byrion | 219 | ||
| Mynegai | 225 | ||
| Clawr Cefn | Clawr Cefn |