Additional Information
Book Details
Abstract
Lewis Edwards (1809–87) oedd pennaf ysgolhaig Cymru’r bedwaredd ganrif ar bymtheg ac yn un a gododd safonau y Gymru Ymneilltuol a’u gosod ar seiliau dysg rhyngwladol. Yn Fethodist Calfinaidd o ran ei fagwraeth a’i argyhoeddiadau, yfodd yn ddwfn o dduwioldeb ei gyfnod. Mynnodd gymathu ei ysbrydolrwydd â dysg, a thrwy hynny bu’n anniwall am ei addysgu ei hun, yn gyntaf mewn ysgolion gwlad lleol yng Ngheredigion, ei sir enedigol, yna ym Mhrifysgol Llundain, ond yn bennaf ym Mhrifysgol Caeredin, sef yr unig brifysgolion a oedd yn agored i Ymneilltuwyr Protestannaidd na allent gydymffurfio, o ran cydwybod, â’r Eglwys Wladol. Oni bai am hynny i Brifysgol Rhydychen yr âi. Yn ogystal ag ymorol am ddysg, mynnodd gyfuno ei grefydd brofiadol, Fethodistaidd, â diwylliant secwlar, yn llenyddol ac yn athronyddol, rhywbeth a wnaeth yn bur lwyddiannus yn ystod ei gyfnod wrth draed yr awdur ‘Christopher North’ a’r ysgolhaig Thomas Chalmers yn yr Alban (1833–6).